Wedi ei sefydlu ym 1991, mae Soundworks ym Mae Caerdydd yn cynnig gwasanaeth recordio sain proffesiynnol a gwasanaeth ôl-gynhyrchu / dybio sain ar gyfer cerddoriaeth, teledu, ffilm, radio, y wê a chyfryngau eraill.  Dyma hefyd gartref Simon H Jones, sydd wedi ei wobrwyo am ei waith fel cymysgydd / cynllunydd sain.  


Mae ganddom ni 3 stiwdio gydag offer heb eu hail, 2 ystafell ar gyfer gosod traciau / golygu sain, gofod ar gyfer gosod effeithiau sain ac ystafell drosglwyddo sy’n addas ar gyfer y mwyafrif o ffurfiau sain a fideo, digidol ac analog.  Mae ganddom ni hefyd ofodau hyblyg, sydd yr un mor addas ar gyfer swyddfeydd cynhyrchu ag ydynt i’w defnyddio fel ystafelloedd golygu. 


Gyda sytem dymheru ym mhob stiwdio a bwth, a stafelloedd moethus wedi eu cynllunio gan Munro, dyma awyrgylch cartrefol, creadigol i weithio a chael ysbrydoliaeth. 


Mae’n gwasanaeth yn ymestyn i bob agwedd o recordio ac ôl-gynhyrchu sain - boed hynny’n recordio troslais syml neu cymysgu Dolby 5.1 llawn ar gyfer sinema.